O be dwi’n cofio dyna di’r Cymraeg am crimestoppers!
Felly sut mae gneud eich cartref yn fwy diogel? Sut gallwch neud pethau’n anos i ladron?
Mewn dau allan o bob deg lladrad - dyw’r lladron ddim hyd yn oed yn gorfod torri fewn, mae nhw’n dwad fewn drwy drws neu ffenest a adawyd ar agor.
Drychwch ar eich cartref drwy lygaid y lleidr - oes llefydd, allan o’r golwg lle y gallech dorri fewn? Oes cloeon cryf ar eich drysau a’ch ffenestri? Bydde rhaid i chi torri gwydr a neud swn mawr?
Mae’n bosib lleihau y risg o ddioddef lladrad drwy sicrhau eich bod wedi cymryd y camau syml yma.
Am gost isel, gallwch wella diogelwch eich cartref, a phrynnu llonyddwch meddwl.
FFENESTRI
Mae traean o ladron yn torri fewn drwy ffenestri.
Mae cloeon amlwg yn mynd i berswadio rhai lladron i symud ymlaen at y ty nesaf - dydyn nhw ddim eisiau gorfod torri gwydr, gneud swn a denu sylw. Mae’n siop yn Nhreffynnon yn gwerthu cloeon ffenestr yn eithaf rhad, ac mae’n bosib archebu drwy’r post.
Gosodwch cloeon gyda goriad ar bob un o’r ffenestri ar y llawr gwaelod, pob ffenestr sy’n anodd i’w weld o’r ffordd fawr a pob un ar y llawr uwch sydd yn hawdd i’w gyrraedd - e.e. rhai uwch ben to fflat neu gyferbyn a phibell dwr.
Mae angen cloeon ar hyd yn oed ffenestri bach megis rhai y stafell folchi.Os oes modd cael pen drwy’r ffenest, yna gall leidr llithro ei holl gorff drwyddo.
Cofiwch i beidio a gadael goriadau yn yn nhwll clo y ffenest chwaith. Rhowch nhw mewn man diogel, o’r golwg.
Mae ffenestri Louvre yn wendid amlwg gan fod modd tynnu’r gwydr o’r ffram. Gludwch y gwydr yn ei le efo epoxy resin a gosodwch clo ffenestri Louvre. Gwell fyth, newidiwch nhw am ffenest go iawn.
Wrth newid ffenestri, ystyriwch eu llenwi gyda gwydr wedi ei lamineiddio, mae’n llawer mwy diogel, ac yn anoddach i’w thorri.
Mae cloeon casement yn golygu nad yw’n bosib agor ffenest heb y goriad cywir.

Mae gan gloeon fanlight bollt metal i gadw’r ffenest ar glo

Mae’r clo yma yn cloi dau ffenest at eu gilydd. Mae hefyd dyfeisiau sy’n lleihau pa mor bell agorith y ffenest.

Yn yr erthygl nesaf yn y gyfres yma byddaf yn rhoi cyngor cyffredinnol ar atal lladrata, a cyngor penodol ar gloeon drws. Yn y cyfamser - cofiwch fod Delyn Locksmiths yn cynnig arolwg diogelwch am ddim. Byddwn yn dwad i’ch crtref neu lle gwaith a phwyntio allan y manau gwan y gall lleidr manteisio arnynt. Cysylltwch a ni ar 07977 594707 i hawlio eich arolwg diogelwch.