Rydym yn cynnig:
O’n siopau yn Llandysul a Threffynnon rydym yn cynnig Gwasanaeth 24 awr ar draws Gogledd a Gorllewin Cymru gan gynnwys Dinas Caer a Siroedd Wrecsam, Conwy, Gwynedd, Dinbych, Fflint, Caerfyrddin a Cheredigion.
Rydym hefyd yn gwneud gwaith contract i gwmniau mawr yn Abertawe, Yr Amwythig a Chaerdydd.
Pwy ydan ni?
Rydym yn gwmni bach lleol ac yn cynnig gwasanaeth da a phrisiau teg.
Faint,felly?!
Mae ein prisiau cystal fel ein bod yn eu hysbysebu.
Nid yw llawer o’r gystadleuaeth yn fodlon hysbysebu eu prisiau – gofynnwch i’ch hunain pam!
Rhowch ein rhif yn eich ffôn symudol rhag ofn i chi ffeindio eich hunain wedi cloi allan!
Gostyngiad o 25% ar bob dim i aelodau Cymuned neu Gymdeithas yr Iaith.
Os dech chi’n chwilio am fusnes neu sefydliad sy’n gallu cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg cliciwch ar y botwm isod ![]()
