Aug
06
2010

Efallai mai penwsos yma mae’r busnes go iawn yn dechrau – efo Caerdydd yn chwarae Sheffield United, ond mae wythnos arall cyn dechrau uwch gynghrair Lloegr – ac felly, mae wsos arall gynnoch chi i gofrestru eich tim yng nghyngrair ffantasi Delyn Locksmiths Ltd.
Dwi di rhoi £50 o wobr i’r gyngrhair felly ewch i http://fantasy.premierleague.com i ddewis eich tim yna defnyddiwch y cod 210232-58157 i ymuno efo’r gyngrhair.
Pob lwc!
Jul
28
2010
Rydym wedi gosod sustemau “master key” mewn gwestai bach a mawr ar draws Cymru.
Mae’r cloeon wedi eu hadeiladu mewn ffordd sy’n galluogi rhoi goriad sy’n agor pob drws i aelod o staff, tra bo ymwelydd yn cael goriad sy’n agor eu stafell nhw yn unig.
Mae’r goriad uwch feistr yn agor pob drws yn y sustem, mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i rhai sy’n rhentu tai, neu i ysgolion, swyddfeydd, gwestai ayb.
Mae’n bosib hefyd creu goriadau is feistr e.e. i agor pob drws ar un llawr mewn gwesty.
Cysylltwch a ni drwy ebost neu ar y ffon am dyfynbris. dewi@delynlocks.com

Mar
25
2010
Dan ni’n chwilio am unigolyn sy’n onest, ac efo’r gallu i weithio’n galed ac yn ddiffwdan, fel Saer Clo. Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi staff, ond yn amlwg, byddai profiad yn y maes yn fantais.
Bydd y cyflog yn ddibynnol ar brofiad, ac ar yr hyn y gallwch ddod i’r cwmni. Bydd lleoliad y swydd yn ddibynnol ar yr ymgeisydd llwyddianol. Rydym yn fodlon ehangu i unrhywle yn y Deyrnas Unedig.
Byddwch angen drwydded yrru llawn, a’ch trafnidiaeth eich hun.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais.
Gwnewch gais drwy llythyr a CV, yn rhestru unrhyw brofiad i
Seiri Clo Delyn Cyf,
33 Amity Court,
Longueil Close,
Schooner Way,
Caerdydd,
CF10 4EA.
Neu ffoniwch 07977 594 707 am sgwrs.
Mar
11
2010

Mae pedwar ohonom ni yn pacio ein bagiau ar gyfer cynhadledd yr Institute of Certified Locksmiths yn Nottingham y penwythnos yma. Bydd yr holl amser ymarfer, yn ogystal a’r cyfleoedd i chwarae efo’r teclynnau mwyaf newydd a sgleiniog yn sicrhau ein bod yn cadw ar frig y diwydiant saer clo ym Mhrydain.
Ond mae’n bosib, ar ol yr holl yfed y bydd gennym benmeinimawr ar ddydd Llun.
Gallwch ddarganfod pob dim am y gynhadledd yn y fan hyn
Mar
09
2010
Diolch i Hartley Wilprint mae gennym logo newydd.
Mae’r logo yn ymddangos ar ein llyfrau anfoneb, a dros y misoedd nesaf mi fydd yn cael ei estyn ar draws y cwmni, fel ei bod ar ein hiwnifform, ar ein faniau ac ar y wefan yma.

Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau am yr ail frandio ar y blog yma.
Feb
12
2009
Mae rhedeg busnes yn her cyson. Mae delio efo’r dyn treth am y tro cyntaf, cynllunio ymgyrch marchnata, creu gwefan, trin staff a cwsmeriaid yn gallu creu penbleth.
Dyma fforwm newydd i’n galluogi i drafod efo pobl sydd yn yr un sefyllfa, neu sydd a profiad o ddelio efo’r un problemau.
Dydi hi ddim o hyd yn bosib ffeindio’r amser i fynd i gyfarfodydd rhwydweithio, felly dyma cyfarfod rhwydweithio arlein!
Ymunwch yn y drafodaeth, a pob lwc wrth adeiladu eich busnes.
Cyfeiriad y negesfwrdd yw http://busnes.proboards.com/
Apr
10
2008
Bydd Colin Jones sy’n hannu o Dremeirchion a bellach yn byw yn Nhrelogan yn ymuno gyda staff Seiri Clo Delyn ym mis Mai.
Dechreuodd Colin ei yrfa gwaith yn Hawker Siddeley Aviation, Sir Fflint yn y 60′au hwyr ac yna fe wariodd pedair mlynedd yn y llynges fel swyddog peirianneg.
Yn y saithdegau fe aeth i weithio i gyngor Sir y Fflint a fo fydd yn gyfrifol am rheoli’r siop yn Nhreffynnon ynghyd a cadw trefn ar y cyfrifon.
Mar
01
2008
Ddim cweit eto, ond mi fase fo’n mynd petai ni’n gallu torri goriadau fel y boi yma!
Feb
27
2008

Rydym wedi ein cofrestru gyda Supra Keysafes fel un o’u gosodwyr proffesiynnol. gallwch ffeindio eu gwefan yma. Ond wrth gwrs, drwy ffonio ni’n uniongyrchol gwech chi bris gwell!
Mae’n siop yn Nhreffynnon yn gwerthu ystod eang o safes, bocsys arian, keysafes a bocsys goriadau. Rydym yn bwriadu lawnsio siop arlein yn fuan, ond yn y cyfamser gallwch gael pris neu archebu unrhywbeth dros y ffon ar 01352 716056.
Feb
17
2008
Poeni am diogelwch eich cloeon? Wel gallwn cynnig cymorth, fel aelod o’r ICL rydym ar flaen y gad pan ddaw at ymchwil diogelwch a bellach rydym wedi lawnsio ein casgliad ein hunain o silindrau.

Mae’r silindrau yn rhai
1/ 6 pin sy’n cydymffurfio a EN1303
2/ yn cynnwys piniau i atal rhywun rhag eu hagor gyda drill
3/ wedi eu diogelu rhag ymosodiad “snappio”
4/ wedi eu trin gyda “pickbuster” i atal bympio
5/ gyda 8 pin diogelwch i rhwystro rhywun rhag eu pigo
6/ 57 gwahanol maint / lliw / math
7/ wedi eu gorffen mewn arian neu pres
8/ gyda goriad y ddau ochr neu goriad un ochr a trowr yr ochr arall
9/ Gallwch archebu mwy nac un i weithio o’r un goriad os yr hoffech.
10/ Mae’r silidrau wedi passio prawf PAS 24 annex c (gan yr MLA) i ddangos nad ydynt yn bympio
Byddwn yn lawnsio’r silindrau ar ddydd Gwyl Dewi.
Gall Delyn Locksmiths hefyd cyflenwi rhain i gwneuthurwyr UPVC neu siopau DIY ar bris gostyngiedig arbennig. Esiampl o’r prisiau yma yw £6.50 am 30/30 a £8.60 am 40/40. Mae’r silindrau yma o safon cyfwerth a silindrau squire ac mae’r rheini yn gwerthu i’r diwidiant am bedwar gwaith ein pris ni. Ffoniwch rwan i archebu eich silindrau diogelwch uwch 01352 716056.