Aug 30 2007

Taclo’r Tacle – Arolwg diogelwch am ddim

Published by admin at 6:44 pm under Cylchlythyr

Cysylltwch a ni ar 07977 594707 i drefnu arolwg diogelwch am ddim. Dydi’r arolwg ddim yn cymryd llawer o amser, ac fe ddylsem fedru trefnu amser sy’n gyfleus i bawb. Byddwn yn cerdded gyda’n gilydd o gwmpas eich eiddo ac fe drafodwn eich mesurau diogelwch presennol, ac unrhywbeth fydde’n gallu effeithio ar ddilysrwydd eich yswiriant. NI FYDDWN yn mynd ati i drio gwerthu unrhywbeth i chi.

Edrychwn ni ar eich drysau a’ch ffenestri, ac ar adeiladau allanol megis shed neu garage.

Os den ni’n meddwl fod lle i wella eich diogelwch, mi bwyntiwn ni hynnu allan i chi. Wnawn ni ddim trio eich perswadio i adael i ni gyflawni’r gwaith, ac os yr hoffech, mi fedrwn awgrymu llefydd i brynnu’r cloeon a ballu i neud y gwaith eich hunain.

Wrth gwrs, os byddwch am i ni wneud yna byddwn yn gallu gosod yr offer diogelwch i chi. Byddwn yn gadael cerdyn, rhag ofn eich bod yn penderfynnu gofyn i ni neud y gwaith, ac wedyn os dech chi digon anffodus i gloi eich hun allan – fydd gennych ein rhif ffon.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi rhoi ein rhif yn eich ffon symudol, wedyn os gollwch eich goriadau, neu os dorith un mewn clo bydd ddim rhaid i chi sgramblo i fenthyg yellow pages o’r bobl drws nesa neu ffonio’r heddlu.

  • Share/Bookmark

No responses yet

Trackback URI | Comments RSS

Leave a Reply