Sep 01 2007
Chwilio am wasanaeth Cymraeg?
Wel dos i llearywe.com. Mae Delyn Locksmiths yn derbyn gymaint o fusnes drwy’r ffaith ein bod yn gweithredu’n gwbl ddwyieithog fy mod yn awyddus i rhannu’r mantais yma gyda cwmniau eraill sy’n parchu’r iaith. At y perwyl yma dwi wedi dechrau cyfeirlyfr arlein or enw llearywe.com. Dim ond fersiwn prawf sydd yno ar hyn o bryd – ond mae croeso i chi gofrestru eich busnes a cael hysbyseb am ddim.
Ewch draw i sbio, arbedwch y dudalen i’ch fefrynnau ac os fyddwch yn chwilio am fusnes i wneud gwaith i chi, a bod un ar gael sy’n cynnig gwasanaeth Cymraeg – cofiwch ei ddefnyddio.
Os dech chi eisiau hyrwyddo’r cyfeirlyfr, a drwy hynnu cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes yna mae croeso i chi ychwanegu’r botwm uchod at eich gwefan.
