Nov 28 2007
Fy Ymgyrch Google Ads
Helo gyfeillion a chwsmeriaid. Holiadur bach sydyn, a byddwn yn falch, os oes gennych pum munud bach sbar i gael eich ymateb.
Tase chii isio locksmith i’ch ty. Ac eisiau chwilio ar google am un – pa search terms sa chi’n eu defnyddio?
e.e.
1) os di dy ddrws yn gwrthod cloi.
2) os wyt ti yn y swyddfa, a wedi cloi dy hun allan bore ma, eisiau locksmith i ddwad draw i gyfarfod a ti ar ol dod nol or gwaith
Dwi’n mynd ati i rhoi google ad campaign at ei gilydd, ac eisiau gwbod pa “key words” i’w defnyddio. Sampl fwya gai, gore oll. Hefyd dech chi unrhywdro (heblaw pan dech chi’n chwilio am wbath uniaith Cymraeg fatha llyfr) yn chwilio google yn Gymraeg? Bysa ti’n meddwl rhoi “saer clo” i fewn yn google er engraiff?
Mae gen i syniad go dda, ond dwi ddim eisiau effeithio ar eich atebion drwy ei gynnig fan hyn!
Byddwn yn falch o unrhyw ymateb i dewi@delynlocks.com
Os oes unrhywun arall yn meddwl dechrau ymgyrch google ads, mae croeso i chi gysylltu, mae gen i deunyddiau da iawn i’ch helpu i greu ymgyrch effeithiol, a dwi newydd gael cod drwy’r post fel bo’ch £30 gyntaf o credyd am ddim!
