Feb 17 2008

Silindrau ICL

Published by admin at 1:21 pm under Cylchlythyr

Poeni am diogelwch eich cloeon? Wel gallwn cynnig cymorth, fel aelod o’r ICL rydym ar flaen y gad pan ddaw at ymchwil diogelwch a bellach rydym wedi lawnsio ein casgliad ein hunain o silindrau.

ICL Cylinder

Mae’r silindrau yn rhai

1/ 6 pin sy’n cydymffurfio a EN1303
2/ yn cynnwys piniau i atal rhywun rhag eu hagor gyda drill
3/ wedi eu diogelu rhag ymosodiad “snappio”
4/ wedi eu trin gyda “pickbuster” i atal bympio
5/ gyda 8 pin diogelwch i rhwystro rhywun rhag eu pigo
6/ 57 gwahanol maint / lliw / math
7/ wedi eu gorffen mewn arian neu pres
8/ gyda goriad y ddau ochr neu goriad un ochr a trowr yr ochr arall
9/ Gallwch archebu mwy nac un i weithio o’r un goriad os yr hoffech.
10/ Mae’r silidrau wedi passio prawf PAS 24 annex c (gan yr MLA) i ddangos nad ydynt yn bympio

Byddwn yn lawnsio’r silindrau ar ddydd Gwyl Dewi.

Gall Delyn Locksmiths hefyd cyflenwi rhain i gwneuthurwyr UPVC neu siopau DIY ar bris gostyngiedig arbennig. Esiampl o’r prisiau yma yw £6.50 am 30/30 a £8.60 am 40/40. Mae’r silindrau yma o safon cyfwerth a silindrau squire ac mae’r rheini yn gwerthu i’r diwidiant am bedwar gwaith ein pris ni. Ffoniwch rwan i archebu eich silindrau diogelwch uwch 01352 716056.

  • Share/Bookmark

No responses yet

Trackback URI | Comments RSS

Leave a Reply