Apr 10 2008
Delyn Locks yn dal i dyfu!
Bydd Colin Jones sy’n hannu o Dremeirchion a bellach yn byw yn Nhrelogan yn ymuno gyda staff Seiri Clo Delyn ym mis Mai.
Dechreuodd Colin ei yrfa gwaith yn Hawker Siddeley Aviation, Sir Fflint yn y 60′au hwyr ac yna fe wariodd pedair mlynedd yn y llynges fel swyddog peirianneg.
Yn y saithdegau fe aeth i weithio i gyngor Sir y Fflint a fo fydd yn gyfrifol am rheoli’r siop yn Nhreffynnon ynghyd a cadw trefn ar y cyfrifon.
