Sep 13 2010

Ydi’r byd ma’n troi’n lle mwy peryg?

Published by admin at 8:53 am under Cylchlythyr,Uncategorized

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw ein hunain yn saff tra’n helpu swyddogion warrant i gael mynediad i fangreoedd, ond dydi hyn ddim bob amser yn waith hawdd.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn falch i weld saer clo i ddatrys eu problem diogelwch neu i’w gadael i fewn i’w ty. Ond pan dan ni’n gneud gwaith warrant mae’n fater gwahanol, den ni’n torri fewn i ty yn erbyn dymuniadau’r perchenog ar orchymyn y llys.

Chydig wythnosau yn ol, cafodd un o’n seiri clo ei daro yn y gwyneb efo morthwyl gan gwsmer blin. Bu’n rhaid iddo wario pedwar awr yn yr ysbytu yn cael pwythau yn ei ben.

Braw i bawb, ac rydym yma yn Delyn Locksmiths wedi trio dysgu o’r profiad. Mae’n hawdd, wrth neud y gwaith yma bob dydd i gymryd diogelwch yn ganiatol – ond mae’r profiad bach yma yn ein hatgoffa i ddisgwyl yr anisgwyl, ac i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n mynd ymlaen o’n hamgylch. Dim ond eiliad mae’n cymryd i ddiwrnod o waith droi’n sur iawn.

Share

No responses yet

Trackback URI | Comments RSS

Leave a Reply